Daeth y newyddion lleiaf syfrdanol erioed yn ystod wythnos y Steddfod, wrth i S4C yn ei mawredd ddweud wrthym nad ydi’r sianel am ymddiheuro am ddefnyddio Saesneg. Sara Peacock, sy’n eironig yn arweinydd strategaeth Gymraeg y sianel, gyhoeddodd hyn ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru. Ymddengys mai byrdwn y strategaeth honno ydi defnyddio llai o’r iaith.