Deuais o hyd i ni wrth glirio hen lyfrau i fynd i’r siop elusen – chwiw o waredu hen bethau, a minnau’n meddwl y byddai cael gwared ar y straeon ar fy silffoedd yn gosod trefn ar y straeon oedd yn brysur ddatblygu’n ormod o blot yn fy mywyd fy hun. Roedd y ffotograff ohonom ni’n dynn rhwng copi carpiog o Chwalfa a hen eiriadur fy nain, a minnau’n gorfod gwenu ar yr eironi digalon ein bod ni’n tair yn chwalfa rhwng geiriau.

Craffais arnom ni.