Www, ges i groen gŵydd mwy nag unwaith yn gwylio’r Steddfod ar y bocs… wel, i fod yn onest, mae hi’n sgrîn fawr lydan, megis ffenestr fawr felys i ddiwylliant llachar ein gwlad… yndi, ma’ wsos o Stedi yn deffro’r poet yn pawb!

Croen gŵydd #1: gwrando ar Tudur Owen yn cloi rhaglen uchafbwyntiau S4C ar y nos Lun wedi’r coroni.

Roedd o’n sôn am ba mor falch oedd o o’r ardal a’r rhai gafodd eu hurddo i’r Orsedd.