Gyda fy amser yng Nghaerdydd yn prysur iawn ddod i ben, fe ofynnwyd imi yn y parc a oedd gen i restr fwced (rhaid bod term gwell am hwnnw’n Gymraeg?) o bethau dw i dal eisiau eu gwneud yma.

Ychydig eiliadau gymerodd imi ddod i’r casgliad mai ‘na’ ydi’r ateb – wedi’r cyfan, os ydych chi’n rhywle ers 16 mlynedd a heb wneud popeth ‘da chi isio’i wneud, mae’n rhaid nad oeddech chi wir am eu gwneud yn y lle cyntaf.