O’r diwedd, mae’r wasg a’r cyfryngau yn dechrau sylweddoli bod yna adwaith gwleidyddol sylweddol yn digwydd yn erbyn polisïau gwyrdd.

Isetholiad Uxbridge a De Ruislip sydd wedi tynnu eu sylw nhw, ond mae’r arwyddion yno ers ymhell tros flwyddyn, ac nid yng ngwledydd Prydain yn unig.

Enghraifft eithafol o’r ffenomenon oedd ymateb truenus Keir Starmer i’r helynt tros estyn ULEZ, y dreth ar y ceir butra’.