Dau bwt poenus o gyfarwydd ar y radio, a’r un hen stori drist.

Mam ifanc o bentref Llansannan yn Sir Conwy methu fforddio tŷ yn ei milltir sgwâr, ac wedi mynd i fyw yn Hen Golwyn… ac yn torri ei chalon am orfod symud, gyda dau o blant bach a’u tad, o fro ei magwraeth.

“Dyma lle gafon ni ein dwyn i fyny, dyma lle’r oeddwn i eisio dwyn ein plant fyny, ond does yna ddim ffordd,” meddai Mari Hughes ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru.