Ar y Soffa yw enw’r golofn yma ac yn wir, ar fy mhen ôl yn gorweddian ar y dodrefnyn dymunol hwnnw y byddaf yn gwneud fy ngwaith ymchwil ar ei chyfer fel arfer. Fe allwch chi wylio teledu yn unrhyw le’r dyddiau hyn ond dw i’n greadur reit draddodiadol yn y bôn.

Ond ddim mor draddodiadol nad ydw i’n gwybod beth yw podlediad. Felly dyma wthio’r diffiniad o fod ‘ar y soffa’ yr wythnos hon, mentro o gyfforddusrwydd yr ystafell fyw a tharo golwg, neu glust yn hytrach, ar bodlediad newydd.