Mae materion gwleidyddol yn gallu bod yn bethau hawdd ac amlwg.

Er enghraifft, bwriad ein Llywodraeth i wahardd bwydydd afiach y meal-deals. Mae modd deall y dadleuon o blaid y weithred, sef ein cadw’n iach ac yn denau.

Neu mae modd i faterion gwleidyddol fod yn gymhleth ac niwlog. Megis ein perthynas â’r Undeb Ewropeaidd.