Does yna ddim Cymro yn y Tour de France eleni. Mae Geraint Thomas wedi penderfynu canolbwyntio ar ras y Vuelta Espana ar ôl gorffen yn ail yn y Giro d’Italia. Rydw i’n disgwyl gweld Luke Rowe yn Sbaen efo’i hen bartner, a does yna ddim lle ychwaith i Owain Doull na Stevie Williams yn eu timau nhw.