Mae’r anrheg yn barod amdani mewn bag papur coch sgleiniog wrth ddrws y ffrynt – potel o win, bocs o siocled, a cherdyn y bu Buddug yn llafurio drosto’n ddiddig drwy min nos gyda phensiliau lliw a chwpl o ffelt tips aur ac arian. Yn y cerdyn, mae hi wedi sgwennu, yn ei llawysgrifen gorau, I Miss Evans, athrawes orau’r byd. Diolch am bob dim. Buddug XOXOXOXO, ac mae hunanbortread bach annwyl o wyneb gwenog, gwallt tywyll byr a bawd i fyny.