Dan amgylchiadau arferol, mi faswn i’n teimlo’n chwithig braidd o weld pobol Llanelli yn gwrthod ceiswyr lloches.

Sŵn hunanol sydd i rai o’r sloganau ac mae gwrthod croeso i bobol sydd mewn angen mawr yn sicr yn groes i’r graen mewn ardal sydd, yn hanesyddol, wedi agor ei breichiau.

Ond, wrth gwrs, nid amgylchiadau arferol ydi’r rhain ac nid ymateb i’r bobol eu hunain y mae trigolion Llanelli ond i orchymyn gan lywodraeth sy’n gweithredu am resymau amheus.