Colled barchus gafodd tîm pêl-droed merched Cymru draw yng Nghaliffornia dros y Sul, wrth iddyn nhw herio pencampwyr presennol y byd.

Mae tîm merched Unol Daleithiau America yn mynd am eu trydydd Cwpan y Byd o’r bron yr Haf hwn, felly roedd colli 2-0 oddi cartref yn ganlyniad calonogol i’r Cymry.