Pa mor aml fyddwch chi’n sgwrsio gyda rhywun sydd wrthi yn dysgu siarad Cymraeg?

Ges i air efo un ar y ffôn ddechrau’r wythnos, ac roedd hi’n hyfryd.

Roeddwn i am wybod ers faint yr oedden nhw wedi bod yn cynnal parthau ugain milltir yr awr tu allan i ysgolion Sir Conwy.

Roedd hi’n sgwrs lled dechnegol, gyda sôn am ‘Ddeddf Rheoleiddio Traffig y Ffyrdd 1984’ a pherlau coll eraill.