Er mwyn annog pobol i gadw’r ardal yn daclus, mae Parc Cenedlaethol Eryri yn defnyddio cymeriadau’r Mabinogi ar bosteri fydd i’w gweld mewn mannau amlwg.
Yn y llun mae’r Brenin Arthur, sy’n ymddangos yn chwedl Culhwch ac Olwen, yn pigo croen banana gyda’i gleddyf enwog, Caledfwlch.