Fe welaf bod fy nghyd golofnydd, Izzy Morgana Rabey, am foicotio’r Eisteddfod Genedlaethol, gan nad yw’r ŵyl am gytuno i artistiaid megis Sage Todz berffomio trwy gyfrwng y Saesneg (neu’n ddwyieithog) ar rhai o lwyfannau’r ŵyl.

Rwy’n ofni mai f’ymateb i Izzy, ac unrhyw artistiaid arall sydd am foicotio’r Eisteddfod, yw y byddaf yn eu boicotio yn ôl. Ni fyddaf, felly, yn darllen colofn Izzy rhwng heddiw a dydd Sadwrn ola’r Eisteddfod.