Dyma’r unig wythnos yn y flwyddyn pan na fydd rhywun yn gofyn i mi ailadrodd f’enw. Fydd yna neb yn dweud ei fod o’n interesting; neb yn gofyn i mi ei sillafu, cyn codi ael amheus ar y casgliad o lythrennau ar y diwedd; neb yn gwenu’n ffeind ac yn dweud, I’m not even going to try that one! fel petai gwrthod dysgu peth mor elfennol ag enw person yn ymddygiad derbyniol.