Mewn sawl ffordd, mi ddylen ni groesawu’r ddadl am le’r Saesneg yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Nid gelynion y Gymraeg sy’n gofyn am drafod y drefn, ond pobol ifanc sy’n frwd tros yr iaith ac yn ei hystyried yn rhan bwysig o’u hunaniaeth.

Mae’r ddadl hefyd yn arwydd fod yna ffrydiau cyfoethog newydd yn ein diwylliant ni a’r Gymraeg yn dod yn fyw mewn amgylchiadau newydd.