Gan fod y rhaglenni newyddion (a’r byd a’r betws) wedi sôn fod grwpiau o Gymru fel Adwaith ac Al Lewis wedi agor rhai o lwyfannau mawr Glastonbury eleni, gallaf osgoi ail-adrodd gormod ar hynny. Ond wrth gwrs, mae pawb yn deall fod artistiaid sydd yn canu yn Gymraeg yn mynd i gyrraedd cynulleidfa ehangach drwy ganu mewn gŵyl enfawr fel hyn. A da o beth yw hynny!