Aeth ugain mlynedd a mwy heibio ers ffurfio Uwch Gynghrair Cymru. Mae yna genhedlaeth gyfan sydd wedi ei magu gyda’r gynghrair yn ei lle, a dwi’n siŵr mae yna dipyn o bobl sy ddim yn ymwybodol o’r ffrae a gafwyd pan ddaeth y cyhoeddiad am sefydlu’r gynghrair newydd ar ddechrau’r 1990au.