Roedd yn rhyfedd gen i glywed bod y byd wedi cael obsesiwn byrhoedlog gyda ffawd y llong danddwr Titan, wrth iddi gau mewn arni ei hun gan ladd y pum dyn oedd arni, hwythau ar gyrch i ddod o hyd i weddillion y Titanic. Doedd hon ddim yn daith wyddonol, ond yn hytrach yn dwristiaeth eithafol a aeth o’i le.