Mi ddylai pawb bellach fod yn sylwi ar effeithiau cynhesu byd-eang. Ond i wyddonydd fel Arwyn Edwards o Brifysgol Aberystwyth, mae’r arwyddion yn fwy amlwg fyth. Fel y dywedodd yn theconversation.com, mae’r argoelion ym mhegynau oer y byd yn waeth fyth…

“Bydd hyd yn oed y broffwydoliaeth isa’ o gynhesu 1.5°C yn uwch na’r cyfnod cyn-ddiwydiannol yn arwain at ddileu o leia’ hanner 200,000 rhewlif y ddaear erbyn diwedd y ganrif. Gan ddibynnu ar frys ac effeithiolrwydd gweithredoedd ein gwareiddiad, gallai’r ganrif hon hefyd olygu lefel ucha’ toddi rhew yn ein hanes. Eto, mae’r frwydr i achub llawer o’r cynefinoedd rhewllyd gwerthfawr yma eisoes wedi ei cholli. Yn hytrach, i wyddonwyr fel fi, ein gwaith maes bellach i raddau helaeth yw cofnodi olion y ‘troseddau’ hyn – fel bod modd o leia’ i achub gwybodaeth am fywyd yn y rhew, cyn iddo ddiflannu am byth.”

Dydi Martin Shipton ar nation.cymru fawr mwy gobeithiol am ddatblygu economaidd yng Nghymru…

“Dyw perthynas Cymru â fersiynau olynol o ‘greu cae gwastad’ ddim wedi bod yn un hapus. Wnaeth arian Amcan Un ddim cwrdd â’r gobeithion uchel, gor-optimistaidd efallai, oedd gyda ni. Ond tra’r oedden ni yn yr Undeb Ewropeaidd, roedd yna o leia’ system deg a thryloyw i benderfynu pa ranbarthau fyddai’n cael cyllid. Yn ein Teyrnas Unedig ôl-Brexit bresennol, rhaid i ni wylio’r sioe grotésg o ardaloedd cyngor di-fraint yn cystadlu gyda’i gilydd am sylw Gweinidog Torïaidd yn Lloegr sy’n gorfod penderfynu ar bwy i godi bawd i gynnig bonansa ariannol. Wir – dyna fel mae hi… Dylai arian cymorth rhanbarthol gael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru a’i ddosbarthu’n gyfatebol. Mae’n bryd dileu’r gimics a mynnu cael gwleidyddiaeth aeddfed.”

Ond arch-ddodwr y byd yn ei le yr wythnos yma ydi Dic Mortimer, ac yntau’n dechrau trwy ddyfarnu ai terfysg go-iawn oedd yn Nhrelái wedi marwolaeth y ddau fachgen ar feic…

“Fe fyddech chi’n tybio… y byddai gan heddlu gyda record ddychrynllyd Heddlu De Cymru am gamweinyddu cyfiawnder, llu sydd fwy neu lai wedi rhoi’r gorau i ymchwilio i ladradau a thrais yn y ddinas [Caerdydd], bethau gwell i’w gwneud nag ymlid plant. Yn ddealladwy, arweiniodd y marwolaethau at ddicter a gofid a’r ddau ddiwrnod o anhrefn a ddilynodd. Yn amlwg, mae’r heddlu yn anuniongyrchol gyfrifol. Roedd yn edrych fel terfysg, yn swnio fel terfysg, yn arogleuo fel terfysg ac roedd ganddo elfen ddiffiniol pob terfysg: awdurdod gormesol, trahaus gyda bwriadau gwael.” (dicmortimer.com)

Ac wrth drafod pêl-droed Cymru, roedd yn mynd yn ddyfnach nag ymddeolaid Gareth Bale…

“Mae Cymru’n dibynnu ar yr hap llwyr fod clybiau aelod arall o FIFA (Lloegr) yn anfwriadol yn datblygu ambell chwaraewr Cymreig neu’n meddu ar ambell chwaraewr gyda chyn-dad Cymreig nad oes mo’i angen ar Loegr. Does yr un genedl bêl-droed arall yn trefnu pethau fel hyn. Does yr un genedl bêl-droed arall yn gweithredu gyda’r fath anfantais… Dyma wendid sylfaenol, sefydliadol pêl-droed Cymru… er mwyn chwarae pêl-droed rhyngwladol yn llwyddiannus mae’n rhaid cael PÊL-DROEDWYR… ac er mwyn cynhyrchu’r pêl-droedwyr hynny mae angen strwythur cartref o glybiau llwyddiannus yn cynhyrchu llwythi o chwaraewyr ddegawd ar ôl degawd – fel sy’n digwydd yng ngweddill y byd…”