Saith mlynedd wedi’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae polau piniwn yn awgrymu y byddai’r canlyniad yn wahanol pe bai refferendwm yn cael ei chynnal heddiw…

Aeth saith mlynedd heibio ers i filiynau heidio o bob cornel o Brydain i fwrw eu pleidlais yn y refferendwm Brexit.

Ac wedi i fwyafrif o 52% bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, fe gafwyd yr ymadawiad swyddogol ar 31 Ionawr, 2020.