Anodd iawn yw cyfadde, ond y dyddie yma, does dim llawer sy’n fy mhlesio yn fwy na chodi’n fore, cydio mewn bag cit, a neidio yn y car ar antur i Loegr.

Yr wythnos diwetha: taith gerdded ar lwybr anystywallt rhwng pentrefi poenus o Seisnig, gyda rhosod del rownd drysau’r tai a Daily Mail ar bob rhiniog. Yr wythnos cynt, ymarfer nofio yn llyn morol Clevedon – llecyn hyfryd gyda golygfeydd anhygoel o dde Cymru, a llond y lle o slefrenni môr yn bobio ynddo.