Rwyf newydd fwynhau diwrnod neu ddau yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri. Braf oedd gwylio ambell i berfformiad yn y Pafiliwn Gwyn – a chael sgwrs ag amrywiol ffrindiau tra’n eistedd am oriau gyferbyn â Hogi Hogi Hogi, yn y Pentref Bwyd.

Rhaid i mi gyfaddef i mi fwynhau ambell i beint yn ystod y sgwrsio. Ac, ar ôl bwyta gormod o sglodion a burgers rwyf bellach yn rhy dew.

Mae’n beth rhyfedd bod modd mynd yn dewach heb unrhyw ymdrech, tra bod colli hanner owns yn artaith.