Fel cefnogwr, rydw i wedi gwneud digon o brotestio. Roeddwn i’n rhan o grwpiau protest yn erbyn Cadeirydd Clwb Pêl-droed Caerdydd, Tony Clemo, yn y 1990au cynnar. Mi wnes i wisgo crys ‘Bobby Gould Must Go!’ ac ar ôl i Vincent Tan newid lliwiau Caerdydd, mi wnes i orymdeithio ac yna boicotio gemau am flynyddoedd.