Mewn ffordd, roedd hi’n beth da fod yna rywfaint o ddadlau ynghylch Eisteddfod yr Urdd – roedd hynny ynddo’i hun yn rhyw fath o arwydd o aeddfedrwydd.

Yn rhy hir, mae’r mudiad wedi bod yn rhywfaint o fuwch sanctaidd nad oes fawr neb yn fodlon ei feirniadu… a’r Eisteddfod, yn draddodiadol, oedd penllanw hynny.

Bob gwyliau Sulgwyn, roedd y rhan fwya’ o newyddiadurwyr bwystfilaidd yn troi’n ŵyn swci ac yn ymuno yn y dathlu, hyd yn oed pan oedd yna broblemau.