Mae ‘Modryb Tina’ wedi ein gadael! Rhywbryd ddiwedd yr 80au dechreuodd fy nhad hel achau’r teulu. Roedd newydd ymddeol, ac er ei fod yn ddyn oedd yn ymddiddori yn y byd chwaraeon, dwi’n credu fod ‘Y Goeden Deulu’ wedi rhoi rhywbeth ychwanegol i’w gadw yn brysur. Dyma’r union gyfnod roedd yr Anhrefn yn ei anterth. Rhwng 1988 a 1994 roedd rhan fawr o’n hamser yn cael ei dreulio yn teithio Ewrop gyda’r band.