Mae bodlondeb yn rhywbeth newydd iawn i fi. Heb amharchu teulu a ffrindiau, wrth gwrs, sydd yn dod â boddhad cyson – yn ogystal â’m cymdogion yma yng Nghaerdydd. Sôn ydw i am deimlad dwfn, cadarn – rhywbeth sy’n teimlo fel gollwng angor, a hwnnw’n cydio ar ôl cyfnod hir o ddisgyn. Rydyn ni gyd wedi cael cwpwl o flynyddoedd rhyfedd, tydyn – ac ar adegau mae wedi teimlo bod rhyw rym yn shyfflo ein cardiau yn ddidostur, yn taflu jocer ar ôl jocer ger ein bron. Felly araf iawn i ymddiried yn y teiml