Mae’r polau piniwn yn dal i achosi cynnwrf. Ac, yn yr Alban unwaith eto, yr hyn sy’n rhyfeddu’r sylwebyddion ydi fod y gefnogaeth i annibyniaeth wedi codi i 53-47, er gwaetha’ holl drafferthion plaid y cenedlaetholwyr, yr SNP. Yn ôl Mike Small, mi allai hynny effeithio ar obeithion y Blaid Lafur…
“Mae Llafur wedi ymrwymo’n llwyr i fynd ‘ddwrn am ddwrn’ gyda’r Ceidwadwyr i fod y blaid pro-UK ‘ddigyfaddawd’ ac wrth wneud hynny bydd yn dod yn erbyn tri realiti syml a fydd yn effeithio ar ei gobaith i fod ar y blaen. Y cyntaf yw gwytnwch rhyfeddol y gefnogaeth i annibyniaeth, a hynny bellach mae’n ymddangos wedi ei ysgaru oddi wrth enw da’r blaid wleidyddol sydd fwya’ cysylltiedig â’r syniad. Yr ail yw realiti methiant arbrawf Brexit ac atgasedd dwfn pobol yr Alban at hwnnw a’r ffordd y cafodd ei orfodi arnon ni. Y trydydd yw’r profiad parhaus o fethiant cymdeithasol eang.” (bellacaledonia.org.uk)
Yng Nghymru, mae Martin Shipton yn gweld problem yn niffyg menter y Blaid Lafur hefyd, a’r arweinwyr yn Llundain, meddai, weithiau yn ymddangos fel petai ganddyn nhw gywilydd am waith eu Llywodraeth yng Nghymru…
“Mae diffyg parodrwydd Starmer – ac felly Llafur y Deyrnas Unedig – i siglo’r cwch yn mynd ag ef i diriogaeth a ddylai achosi anesmwythyd, a dweud y lleia’, i unrhyw un sy’n ystyried ei hun ar y chwith… dechreuodd yr erthygl hon trwy ofyn a oedd Llafur y DU yn teimlo cywilydd tros Lafur Cymru… mae’n ymddangos i mi mai pwnc dadl fwy perthnasol yw a ddylai fod gan Lafur Cymru gywilydd o Lafur y DU. Fel y mae, dw i’n tueddu at ateb cadarnhaol.” (nation.cymru)
Ar yr un wefan, mae Ben Wildsmith yn defnyddio cwestiwn mewnfudwyr i brofi’r pwynt am Lafur, wrth i’r Llywodraeth Dorïaidd gynnig ffisig cry’…
“Mae miliynau o swyddi heb eu llenwi ac maen nhw’n dweud mai mewnfudo yw’r bai mwyaf o’r cyfan a bod angen ailhyfforddi’r claf a’r anabl ar unwaith. Mae Syr Keir Starmer yn glastwreiddio’r trwyth rhyw ychydig ond yn cytuno y dylen ni ‘leihau’r niferoedd’. Mae’n fy nharo fi mai gwir beryg ailsefydlu rhyddid symud yw allfudo, nid mewnfudo. Mae’r proffwydoliaethau am iechyd economaidd y Deyrnas Unedig yn wael a’i hanghyfartaledd parhaus yn golygu bod byw’n anodd mewn rhannau helaeth ohoni.”
Ond efallai y bydd hi werth aros am ychydig… wrth i ehangder yr ymchwiliad a sefydlodd ef ei hun i Covid greu trafferthion i Boris Johnson (ydach chi siŵr o fod yn cofio hwnnw – y cyn-Brif Weinidog) a’r llywodraeth. Methiant i ystyried manylion neu oblygiadau penderfyniadau o’r fath ydi rhan o’r rheswm, meddai John Dixon…
“Mae’n ddiffyg gofal sydd bellach yn bygwth sefyllfa lle bydd y llywodraeth yn mynd i’r llys yn erbyn ei hymchwiliad hi ei hun er mwyn osgoi gollwng dogfennau o’i llaw. Neu wynebu dirwyon a chyfnod yn y carchar am wrthod trosglwyddo’r dogfennau y mae’r ymchwiliad yn dweud sydd eu hangen arno. Byddai opera gomic yn ddisgrifiad rhy garedig. Byddai’n gwneud achos llys diddorol, er fod y farn gyfreithiol sydd wedi’i mynegi’n gyhoeddus hyd yma yn unfryd bron y byddai’r llywodraeth yn colli.” (John Dixon ar borthlas.blogspot.com)