Un o’r uchafbwyntiau ar faes yr Urdd yn Llanymddyfri yr wythnos hon yw defod y Cadeirio.

Ond beth sy’n digwydd i’r bardd Cadeiriog wedi i’r holl sylw a’r stŵr ddistewi? Yn ôl enillydd Cadair 2022, mae eisiau manteisio ar bob cyfle a ddaw…

Mae Golwg wedi bod yn sgwrsio gyda Ciarán Eynon, bardd Cadair Eisteddfod yr Urdd Dinbych 2022, am y flwyddyn a fu, ers iddo ennill gyda’i gerdd ‘Diolch.’