Dw i’n mynd yn hen, felly dw i ddim yn cofio a ydw i erioed wedi trafod cŵn yn y golofn hon o’r blaen. Go brin. Ond fe dynnodd stori newyddion fy sylw at gynnig posib gan Gyngor Sir Fynwy i wahardd cŵn rhag bod oddi ar eu tennyn mewn nifer o fannau cyhoeddus, gan gynnwys parciau.