Y cerddor Ryland Teifi a’i ddwy ferch, Lowri Clancy Davies a Cifa Clancy Davies, sydd yn mynd â ni am dro yng nghyfres ddiweddaraf S4C, Ein Llwybrau Celtaidd. Siroedd Waterford, Wexford a Wicklow yn ne ddwyrain Iwerddon a Sir Benfro, Sir Gâr a Cheredigion yn ne orllewin Cymru sydd yn ffurfio’r llwybrau hynny. Gyda Ryland wedi ei fagu yng Nghymru a’i ferched wedi eu magu ar yr Ynys Werdd, mae’r tri yn gwybod eu stwff.