Hyfryd gweld rheolwr tîm pêl-droed y dynion ar Faes yr Urdd ddechrau’r wythnos, i gyhoeddi’r garfan ar gyfer y gemau nesaf yn erbyn Armenia a Thwrci ymhen pythefnos.

Mae cael Rob Page ym mhrifwyl ieuenctid Cymru yn gynhyrfus, wrth reswm, a’r cyfle i blant gael ei holi a’i gyfarch yn beth gwych.

Gyda’i gymeriad hawddgar a diymhongar, mae’r dyn o’r Rhondda yn genhadwr ac yn ysbrydoliaeth.