Mae’r anesmwythyd yn drwch ar y strydoedd, fel ryw dawch anweledig yn crwydro’r ddinas. Mae Caerdydd yn crasu, yn hardd dan wres caredig.  Fel hyn y mae hi i fod, a’r blodau yn y gerddi yn bersawr melys, meddwol; y parciau yn llawn picnics a phlant a phobol ym mlodau eu dyddiau yn chwarae pêl ac yn gorwedd yn yr haul ac yn syrthio mewn cariad â’i gilydd; pobol yn eu dillad haf ysgafn, lliwgar yn plethu’n hawddgar i lwybrau pobol eraill yr un fath â nhw. Heddiw, mae Caerdydd yn hardd, ond mae yna