Mae’n rhaid i fi gyfaddef nad oeddwn i yn edrych ymlaen at fynychu Rownd Derfynol Cwpan Cymru, doedd gen i fawr o frwdfrydedd. Doeddwn i ddim yn disgwyl llawer o gêm, a dydw i ddim yn mwynhau gwylio’r Seintiau Newydd yn ennill popeth heb frwydr. A hefyd, roeddwn i’n meddwl byse dychwelyd i Nantporth, hen gae Dinas Bangor, yn gwneud fi’n drist, ac yn flin am golled un o’r clybiau mwyaf hanesyddol yng Nghymru.