Roedd Mam yn hel mygiau brenhinol – y jiwbili, a phriodas Charles a Di, a phob genedigaeth babi newydd, yn rhyfeddol o falch i gario’r holl etifeddiaeth oedd yn dod i’w rhan nhw mor hawdd. ‘Dim ond pobol ydyn nhw,’ byddwn i’n ei hatgoffa hi bob hyn a hyn, ond wfftio fyddai Mam fel petawn i’n dal yn fach. Dyma yw eu hetifeddiaeth nhw, a sipian coffi gwan allan o Andrew a Fergie neu de prynhawn allan o Edward a Sophie. Ma’ ’da ni gyd etifeddiaeth, a brenhiniaeth yw beth sydd gyda nhw.

Dwn i ddim beth i’w wneud gyda’r mygiau.

Mae popeth arall wedi ei ddidoli – y blancedi a’r dillad i siopau elusen, y tlysau i’r wyresau, y llyfrau a’r gwaith papur a’r hen, hen lythyron caru brau mewn bocsys yng nghefn fy nghar.  Ond mae’r mygiau yn atgas gen i, ac yn sanctaidd hefyd.

Bu’n raid i mi glirio’r holl arwyddion o’i diffyg braint o gartref Mam ar ôl iddi farw.

Y llwyth blancedi oedd wedi eu gwthio i lawr ochr y soffa, yn amdo trwm amdani ar noswethiau oer pan na fedra hi roi’r gwres ymlaen. Y tuniau o’r cig rhataf un o’r archfarchnad, 78c am unig bryd bwyd call y dydd, a hynny, hyd yn oed, yn rhy ddrud. A’r peth a dorrodd fy nghalon yn fwy na dim, y peth oedd yn fwy trist, hyd yn oed, na’r ffaith ei bod hi wedi mynd – y bwced o gadachau budron mewn dŵr a bleach wrth y tŷ bach, am ei bod hi’n rhy dlawd i fforddio papur tŷ bach.

Roedd hi wedi edrych ymlaen at y coroni.

Y tu allan, mae merch fach yn yr ardd drws nesaf mewn ffrog dywysoges rad, coron blastig ar ei phen. Mae’r eglwys ar ben y stryd yn canu clychau i dalu gwrogaeth i rywun dieithr. Mae yna rywun unig mewn byngalo i’r henoed yn cael parti bach ar ei ben ei hun wrth wylio’r Brenin Charles yn derbyn baich ei fraint euriad, enfawr, tra’n bwyta ei fisgedi banc bwyd.

Ac mi wn fod Mam wedi marw’n oer yn y fan hyn, het wlân o siop elusen yn goron ar ei phen a phoen blynyddoedd o waith caled wedi ei gynilo o gwmpas ei chymalau, ac mi wn ei bod hi wedi haeddu’r holl foethau – neu, siâr deg o foethau’r wlad, o leiaf, heb orfod brwydro byw am friwsion, am arian mân gyda lluniau o bobol dieithr ar y ceiniogau.