‘Ar y Soffa’ yw enw’r golofn hon ond wrth gwrs, nid ar y soffa mae pawb yn gwylio’r teledu. Yn wir, nid ar y teledu y mae pawb yn ‘gwylio teledu’ y dyddiau hyn.

Wrth i’r oes newid, wrth i dechnoleg ddatblygu ac wrth i arferion gwylio esblygu, mae’n hollol naturiol bod sianeli teledu a chwmnïau cynhyrchu yn symud gyda’r oes ac yn addasu’r ffyrdd maen nhw yn creu cynnwys.

Mae mwy a mwy o bwyslais ar roi deunydd ar-lein a chyllidebau cwbl ar wahân ar gyfer hynny hyd yn oed.