Does gen i fawr o sympathi â Rishi Sunak, ond dw i bron yn teimlo drosto wrth iddo fynd i annerch adain fwyaf asgell dde a hysteraidd ei blaid y penwythnos diwethaf: y Ceidwadwyr Cymreig. Ydyn, maen nhw erbyn hyn yn sicr yn haeddu cael eu disgrifio felly, fel petaen nhw ond yn gwneud yr ymdrech i fod mor annymunol â phosib er mwyn cael sylw gan eu meistri dros y ffin.