Mae’n hawdd anghofio faint o frwydro ac aberthu sydd wedi arwain at yr hawliau sydd gyda ni, erbyn hyn, fel siaradwyr Cymraeg.

A wnaeth neb frwydro’n galetach, nac aberthu mwy, na Trefor ac Eileen Beasley, o Langennech ger Llanelli.

Eu hymgyrch nhw yn y 1950au dros dderbyn gohebiaeth yn y Gymraeg gan yr awdurdod lleol gychwynnodd frwydr yr iaith, mewn gwirionedd. Heb eu hesiampl nhw, pwy a ŵyr sut byddai’r mudiad iaith wedi datblygu. A pha hawliau fyddai gyda ni i’w defnyddio erbyn hyn.