Mae’r sacsoffonydd 24 oed o Lanrug ger Caernarfon ar daith gyda Sŵnami ar hyn o bryd wrth iddyn nhw berfformio eu halbwm ddiweddaraf yng Nghaernarfon, Caerdydd a Llundain.

Graddiodd Alys mewn Cerdd o’r Liverpool Institute of Performing Arts yn 2020, ac erbyn hyn mae hi wedi sefydlu ei hun fel sacsoffonydd ac yn gigio bob penwythnos…

Pam dewis y sacsoffon?

Wnes i gychwyn wrth chwarae’r delyn pan oeddwn i’n ifanc, ond ro’n i ychydig bach yn rybish ar hwnna. Felly pan oeddwn i’n tua deg oed wnes i weld rhywun yn chwarae’r sacsoffon soprano ar y teledu a phenderfynu mai’r sacs ro’n i eisiau chwarae beth bynnag.

Dw i’n meddwl hefyd wrth sbïo yn ôl ar y gerddoriaeth wnes i dyfu fyny arno, roedd yna dipyn o sacs yn mynd ymlaen rhwng y 1960au a’r 1980au ac roedd gan bobol fel Bowie a Billy Joel dipyn o solos ar y sacs yn eu caneuon.

Rydach chi yn gweithio a gigio gyda Sŵnami ers tro bellach, felly sut brofiad ydi cael ymuno ar y daith?

Gymaint o hwyl a rili cyffrous! Mae’r caneuon sydd ganddyn nhw’n class ac mae’r band yn lot o hwyl i chwarae efo hefyd.

Dw i hefyd yn cael y cyfle i chwarae mewn dinasoedd dw i erioed wedi chwarae ynddyn nhw o’r blaen fel Llundain, sy’n gyffrous. Dw i mor ddiolchgar am gael ymuno efo nhw ar y daith.

Wnaethoch chi fwynhau astudio yn Lerpwl?

Roedd cychwyn astudio yn y Livepool Institute of Performing Arts (LIPA) yn brofiad hollol wahanol i be ro’n i wedi gwneud o’r blaen. Ro’n i wedi arfer chwarae caneuon mwy clasurol mewn gigs mwy clasurol, felly roedd o’n teimlo fel bo fi newydd ddechrau chwarae’r sacs o’r cychwyn eto. Ond roedd LIPA llawn pobol wahanol oedd mor dalentog a chreadigol ac roedd o’n le anhygoel i gael dysgu sgiliau newydd. Ges i brofiadau anhygoel o chwarae mewn bandiau gwahanol fel bandiau jazz, pedwarawd sacsoffon pop a bandiau yn chwarae cerddoriaeth y 1960au a’r 1980au. Roedd o’n le da i gael bod o gwmpas pobol oedd yn rhannu’r un syniadau â chdi o ran cerddoriaeth hefyd.

Roedd cael cyfarfod Paul McCartney, cyd-sylfaenydd LIPA, ar ein diwrnod graddio yn brofiad a hanner hefyd!

Oes yna brinder o ferched yn chwarae’r sacs?

Wnes i astudio’r ‘gendering of instruments’ fel rhan o fy nhraethawd hir yn y drydedd flwyddyn i ymchwilio hyn, ond dw i ddim yn siŵr os oes yna ateb cadarn. Mae lot ohono fo i wneud efo’i fod o’n draddodiadol i fechgyn chwarae offerynnau swnllyd fel y dryms, gitâr, bas, ac yn y blaen, a bod merched yn cadw at y ffliwt a’r piano.

Erbyn hyn, ac yn enwedig yn y byd cerddorol ar hyn o bryd, mae yna lot o sacsoffonwyr benywaidd, fel Lucy Kendall o Deco, Abi Harding o The Zutons, Jess Gillam sy’n chwarae’n fwy clasurol a Lovely Laura, sy’n feistr o’r sîn DJio/sacs. Dw i wedi dod o Lerpwl yn nabod lot fwy o ferched fel fi sy’n chwarae’r sacsoffon hefyd!

Pwy yw eich hoff chwaraewr sacs?

Mae yna lot dw i’n sbïo fyny at mewn gwahanol genres, ond yr un dw i’n sôn am fwyaf ydi David Sanborn. Mae o’n chwaraewr sacs Americanaidd ac wedi bod yn gerddor sesiwn gyda phobol fel David Boiwie, James Brown, Billy Joel, Steely Dan, Paul Simon a lot mwy. Ond trwy wrando ar Bowie ges i mewn iddo’n wreiddiol – fo sy’n chwarae’r solo eiconig ar ‘Young Americans’, a dw i’n meddwl bod o mor cŵl.

Beth yw eich atgof cynta’?

Dw i’n un drwg am gofio pethau o pan oeddwn i’n blentyn, ond dw i’n cofio wnaethon ni fel teulu fynd ar goll mewn maes parcio yn Florida am oriau unwaith. Doedden ni methu ffeindio’r car o gwbl, felly wnaethon ni sticio fflag Cymru anferth ar y ffenest y car am weddill y trip. Dw i’n cofio bron â boddi mewn wavepool ar yr un gwyliau… Ond roedd yn drip bach da er hyn.

Pa ddylanwad gafodd eich rhieni arnoch chi yn gerddorol?

Dw i’n meddwl bod lot o’r gerddoriaeth roedd mam a dad yn gwrando arno tra’r oeddwn i’n tyfu fyny yn bendant wedi cal effaith ar y stwff dw i’n gwrando ar a chwarae rŵan fel cerddor. Roedd gan y ddau dâst cerddoriaeth ychydig bach yn wahanol i’w gilydd, a dw i’n teimlo fel bo fi yn gymysgedd da o’r ddau.

Beth yw eich ofn mwya’?

Dw i ddim yn licio lifftiau o gwbl. Dw i ddim yn siŵr os ydi o oherwydd claustrophia, neu’r ffaith bod dad wedi llusgo fi ar y Tower of Terror yn Disney pan oeddwn i’n chwech oed, ond dw i’n casáu mynd mewn lifftiau. Mae yna un penodol dw i’n oce efo – yr un see-through yn WH Smiths yng Nghaer, jest achos bo fi’n gallu gweld allan.

Dw i ddim yn ffan o lindys chwaith, yn enwedig y rhai blewog, tywyll.

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Dim gymaint ag y dylwn i. Dw i’n casáu rhedeg ond dw i’n licio gwneud pethau fel nofio a phadlfyrddio, ond ti methu rili gwneud heblaw ei bod hi’n braf allan, sy’n beth prin yng ngogledd Cymru.

Beth sy’n eich gwylltio?

Pan mae pobol yn stopio a sefyll yng nghanol llwybrau neu o flaen mynediad, neu’n blocio’r aisles mewn siopau efo trolis.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Dw i’n siŵr fysa lot o bobol mewn hanes neu gerddorion yn dda i gael pryd efo, ond os ydych chi wedi gwrando ar bodlediad Off Menu efo James Acaster ac Ed Gamble, dw i’n siŵr fysa chi’n cytuno y bysa cael pryd Off Menu go-iawn efo nhw yn lot o hwyl. Maen nhw i weld yn gwybod llwyth o stwff am fwyd ac maen nhw’n hilarious, felly dw i’n teimlo fel bysa’r noson yn massive laff.

I fwyta byswn i’n mynd am ryw fath o basta a [phwdin] affogato i orffen.

Hoff wisg ffansi? 

Wnes i a chwpl o ffrindiau benderfynu gwisgo fyny fel y band Queen unwaith, sydd bach yn generic erbyn hyn… Ond roedd o’n reit ddoniol achos aeth dipyn o waith mewn i’r gwisgoedd – wigs, mwstash, drumsticks – ac ar ddydd y parti wnaeth dwy benderfynu gwrthod mynd fel yr aelodau eraill o’r band, felly aethon ni fel Freddie Mercury a Roger Taylor. Ond dydi o ddim rili’n Queen heb Brian May!

Hoff gân i chwarae ar y jiwcbocs?

‘Life is a Highway’ – Rascal Flatts.

Gwyliau gorau i chi fwynhau?

Dw i wedi bod ar dipyn o wyliau efo ffrindiau dros y blynyddoedd diwethaf – fel arfer efo’r un criw – ond mae pethau entertaining yn digwydd bob tro a ti byth yn gwybod be i ddisgwyl!

Ddim bo fi wedi mwynhau hyn yn digwydd, ond aeth criw ohonon ni i Magaluf pan oedden ni newydd adael ysgol uwchradd, a wnes i agor fy ngên ar noson gyntaf y gwyliau a gorfod mynd i’r ysbyty am bwythau. Dw i dal efo’r graith hyll rŵan, felly’n bendant yn wyliau cofiadwy!

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Dw i ddim yn un da am gysgu’n fuan beth bynnag, ond dw i’n ddrwg am gychwyn llyfr neu ffilm neu chwarae gemau ar fy ffôn am tua 11 y nos, a ddim yn sylwi faint o’r gloch ydi tan dw i’n stopio tua tri o’r gloch y bore.

Hoff ddiod feddwol?

Ar y funud – spiced rum a diet coke. Fel arall, Guinness bob tro. Ond dw i’n ychydig bach o foi coctels hefyd ac yn ffan fawr o rywbeth efo blas mint fel Mojitos.

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Mae gen i lyfr bach o’r enw Fear Stalks the Land! gan Thom Yorke & Stanley Donwood hefyd, sy’n gasgliad o nodiadau, geiriau, cerddi, lluniau ac yn y blaen roedden nhw’n gyrru i’w gilydd tra roedd Radiohead yn creu rhai o’i albyms. Mae o’n llyfr bach wacky, ond yn rili cŵl, a dw i’n licio mynd yn ôl i ddarllen a sbïo arno fo bob hyn a hyn.

Dw i hefyd yn licio darllen llyfrau dystopaidd, fel y rhai sydd wedi eu hysgrifennu 100 mlynedd yn ôl ond sy’n rhyfedd o gywir o gymharu efo sut mae bywyd rŵan. Dw i ar ganol darllen Brave New World gan Aldous Huxley ar y funud, sy’n esiampl o lyfr fel yna.

Hoff air?

Mae o’n newid drwy’r adeg achos dw i’n ffeindio geiriau yn ddiddorol. Dw i’n gwneud lot o groeseiriau a darllen, felly dw i’n ffeindio geiriau newydd bob dydd.

Hoff albwm?

Illinois gan Sufjan Stevens. Mae o’n uffar o albwm sydd efo lot o ganeuon bach random, a dipyn o rhai hirach i gyd jest yn llifo mewn i’w gilydd. Dw i’n gallu gwrando arno fo drosodd a drosodd heb ddiflasu. Mae’r boi’n class ac mae ganddo fo lot o albyms da, ond hwnna ydi’r gorau gen i.

Rhannwch gyfrinach efo ni?

Doeddwn i methu darllen cloc tan oeddwn i yn yr ysgol uwchradd.