Prin fyddai actor ifanc o Ynys Môn wedi meddwl y byddai’n ymddangos ar Netflix lai na dwy flynedd ers iddo raddio.
Roedd Gwïon Morris Jones wedi paratoi ei hun i fod yn gweithio tu ôl i far tafarn neu weini mewn bwyty am ychydig flynyddoedd ar ôl gorffen ei gwrs yn y Central School of Speech and Drama yn Llundain, cyn y byddai’n llwyddo i ennill ei blwyf yn actio.
Ond nid felly y bu i’r perfformiwr o Frynteg, a gafodd ei gastio yn addasiad S4C o nofel gyntaf Iwan ‘Iwcs’ Roberts, Dal y Mellt, sydd bellach ar gael i’w wylio ar blatfform ffrydio Netflix.
Ac mae’r actor ifanc wedi profi mwy o lwyddiant wrth gael ei enwebu ar gyfer gwobr ‘Seren newydd’ Cymdeithas Deledu Frenhinol (RTS) Cymru am ei bortread o ‘Carbo’ yn y gyfres.
Wedi’i fagu ar eisteddfodau, yn enwedig Steddfod Marian-glas ar Ynys Môn, mae Gwïon yn troi ym myd y celfyddydau ers iddo fod yn blentyn, rhwng actio, canu a sgrifennu.
“Roedd mam fel arfer yn arwain Steddfod Marian-glas, a mam hefyd yn gwneud yn siŵr fy mod i’n mynd fyny i gystadlu ymhob cystadleuaeth posib,” eglura’r actor sy’n byw yn Llundain.
“Wedyn ddois i bach hŷn a sylweddoli bod yna bres ar gael felly fe wnaeth hi ddechrau mynd yn: ‘Dw i eisiau cystadlu ymhob peth posib er mwyn cael gymaint o bres fedra i’.”
Bu’n rhan o sioeau’r Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch, yn cystadlu ar y gân sioe gerdd mewn eisteddfodau, a dechreuodd wneud lot o waith â chwmni ieuenctid y Frân Wen yn ei arddegau.
“Fan yna gefais i’r hwb i feddwl y medrwn i wneud hyn yn broffesiynol. Dw i’n cofio Ifan [Pritchard] o’r band Gwilym a finnau’n trafod be oedden ni eisiau’i wneud, ac roedden ni jyst yn dweud ein bod ni eisiau bod yn ddigon da i allu bod yn un o’r bobol oedd yn rhedeg y gweithdai – pethau fel Sbectol, Ar y Stryd. Roedd dipyn o’r bobol oedd yn helpu ni’n fan honno’n dipyn o ysbrydoliaeth i ni ar y pryd.”
Cafodd Gwïon ran yn nrama Chwalfa ar adeg agor Canolfan Pontio ym Mangor pan oedd yn 16 oed, a chafodd ragflas ar sut beth fyddai bod yn actor proffesiynol.
“Ond am ryw reswm fe wnes i’r penderfyniad gwirion o fynd i ffwrdd i’r brifysgol a mynd i Fangor a dechrau astudio Cerddoriaeth. Roeddwn i’n joio Bangor a’r cwrs, ond roeddwn i wedi cael haf llwyddiannus iawn yn y Steddfod flwyddyn cynt ac roedd y bug gen i ac roeddwn i’n meddwl bod rhaid i fi fynd ar gwrs Drama.
“Finnau’n hogyn o’r wlad, heb lawer o brofiad yn mynd ar drên heb sôn am fynd ar y Tube, yn crwydro rownd Llundain i’r ysgolion drama yma i gyd… Dw i ddim yn gwybod be ddaeth drosta i, a dw i’n eiddigeddus iawn o ‘Gwïon’ pan oedd o tua deunaw achos o’r hyder oedd gen i.”
Un o’r rhannau difyrraf o’r broses actio i Gwïon yw’r tyrchu a dod i adnabod y cymeriad – sut mae’n siarad, sut mae’n symud ag ati.
“Mae actio i fi’n teimlo fel ryw fath o bôs, ddim fy mod i eisiau ei gracio fo achos mae o’n llafur creadigol a does gen ti ddim ffordd o’i gracio. Fi ydy’r offeryn, ac mae hynna’n anhygoel a’r ffordd ti’n gallu ymgolli ynddo fo. Mae rhedwyr ac athletwyr yn sôn am flow state, mae o union yr un peth efo actio.
“Dw i’n ffeindio fo’n eithaf myfyriol hefyd, achos bod o’n gofyn ffocws mor fanwl, mor ddwys. Mae bob dim arall yn gadael fy mhen, a dyna’r unig beth sy’n bwysig.”
Actio ‘Carbo’ yn Dal y Mellt oedd y tro cyntaf i Gwïon deimlo’i fod yn perchnogi rhan, ac roedd yn gyfle iddo roi ei addysg yn y coleg ar waith. Wrth weithio ar y gyfres, a oedd y criw yn teimlo’u bod nhw’n rhan o rywbeth fyddai yn llwyddo ac yn arwyddocaol?
“Mae yna ddwy ffordd o sbïo arni,” meddai’r actor. “Pan oeddwn i yna, roedd y criw mor gyfeillgar. Ar un llaw, roedd yna lot o bwysau ond hefyd roedd hi’n hawdd iawn anghofio’n llwyr amdano fo ac ymgolli yn y gwaith. Roedden ni i gyd yn ymwybodol, fel cast o leiaf, bod gennym ni chwip o sgript, chwip o gyfarwyddwr, a chwip o Gyfarwyddwr Ffotograffiaeth felly roedd yna ryw fath o buzz rhyngom ni yn gwybod bod gennym ni rywbeth sbesial.
“Doedd ymddangos ar gyfres Netflix ddim cweit yn fy rhagolygon ar gyfer fy mlwyddyn gyntaf allan o coleg. Dw i’n falch bod cymaint mwy o bobol am gael y cyfle i weld Dal y Mellt achos dw i yn meddwl bod gennym ni rywbeth sbesial yna, ond mae yna ryw gryndod mawr yn dod drosta i hefyd [wrth feddwl am y peth].”
Ac roedd yr enwebiad ar gyfer y wobr ‘Seren Newydd’ Cymdeithas RTS Cymru yn golygu tipyn iddo hefyd.
“Mae’r ffaith bod yna rywun wedi edrych ar fy ngwaith i a meddwl: ‘Chdi’n benodol dw i eisiau ei gydnabod’, mae hynna’n golygu lot.”
Mae Gwïon yn mwynhau troi ei law at sgrifennu hefyd, er nad yw’n gwneud hynny’n broffesiynol eto. Un o’i ddylanwadau mawr, o ran ei actio a’i sgrifennu ydy Russel T Davies, awdur Doctor Who, a chyfresi fel It’s a Sin a Queer as Folk.
“Yn ffodus iawn, dw i wedi gallu gweithio efo Bad Wolf – y cwmni sydd wedi cymryd drosodd yn cynhyrchu Doctor Who – mae hynna’n dipyn o pinch me moment hefyd bod y bobol yma dw i wedi edrych fyny atyn nhw ers blynyddoedd yn fodlon gweithio efo fi…
“O fynd yn ôl i’r dechrau, mae mam wedi bod yn dipyn o ddylanwad ar fy nghreadigrwydd i i gyd. Mam oedd yn dysgu fi i adrodd, mam oedd yn cyfarwyddo’r sioeau ysgol. Mae hi wedi bod yn gymaint o ddylanwad arna i, a chymaint o gymorth i mi erioed a dw i’n ddiolchgar iawn iddi.
“Does gen i ddim llawer o hobis tu hwnt i’r celfyddydau. Dw i yma yn Llundain yn ganol tŷ o bobol greadigol, rydyn ni’n gerddorion neu actorion neu rywbeth felly.
“Ar ben hynny… os fyswn i’n dweud wrtha chdi fy mod i’n joio cwcio neu rywbeth, fysa hynna’n gelwydd! Roeddwn i’n arfer rhedeg, ond dw i wedi stopio rhedeg rŵan achos dw i’n cael digon o ymarfer corff ar y set.”
Bydd Gwïon yn bowldro reit aml, sef dringo waliau heb raff.
“Mae o’n rhywbeth dw i’n ei wneud ers oeddwn i’n ifanc. Fe wnes i symud i Lundain ar ôl stopio gwneud hynny am dipyn a ffeindio bod yna lwyth o ganolfannau bowldro yma – dringo heb raffau. Dw i erioed wedi bod yn un rhy sporty, ond roedd ffeindio rhywbeth oedd yn fath o chwaraeon oedd yn apelio ata i’n braf.”
Ar hyn o bryd, mae Gwïon wrthi’n datblygu sioe gerdd newydd efo Steven Sater a Duncan Sheik, cyfansoddwyr Spring Awakening/Deffro’r Gwanwyn, a bydd yn ymddangos ar ddrama radio o Un Nos Ola Leuad ar gyfer BBC Radio 4 a Radio Cymru.
“Mae honna’n hoff nofel i fi ers oeddwn i’n ei astudio hi i Lefel A, a dw i wedi darllen hi’n flynyddol ers hynny. Mae hi’n lyfli cael gweithio at rywbeth sydd mor agos i’n nghalon i.”