Drwy ei gwaith yn peintio ewinedd, mae mam i ddau o’r gogledd yn glust ac yn gefn i’w chwsmeriaid…
“Y peth pwysicaf i fi ydy fy mod i’n gallu gwneud i rywun deimlo’n dda,” meddai Ffion Mai Jones sy’n rhedeg busnes harddu ewinedd.
Mae’r fam brysur yn gwybod sut beth ydy teimlo fel ei bod hi’n gwneud mwy nag un swyddo yr un pryd, a hithau yn gweithio rhan amser yn athrawes gynradd.
Ers mentro i agor ei busnes, Ciwticwls, mae Ffion yn gwneud llawer mwy na pheintio ewinedd. Ar brydiau, mae hi’n teimlo’i bod hi’n gweithredu fel cwnselydd, yn ffrind i’w chwsmeriaid, ac yn helpu rhai i gael ewinedd cryfach a theimlo’n fwy hyderus.
Gwneud i gleientiaid deimlo’n dda ydy’r peth pwysicaf i’r fam 33 oed sy’n rhedeg y salon o garej yng nghefn ei thŷ yn Nhregarth ger Bethesda yng Ngwynedd.
Mae ei gwaith peintio cain a chywrain wedi arwain at lwyddiant hefyd, gan iddi ennill yng nghategori Gwallt a Harddwch Gwobrau Llais Cymru’r llynedd. Pwrpas y gwobrau yw dathlu menywod mewn busnes, ac mi fyddan nhw’n cael eu cynnal am y trydydd tro eleni.
Ar ôl dechrau gwneud ewinedd ei ffrindiau a’i theulu, datblygodd Ffion ei diddordeb yn fusnes wrth i bethau fynd o nerth i nerth. Bellach, mae hi yn gweithio ddiwrnod yr wythnos yn Ysgol Llanllechid ym Methesda, ac yn ei salon weddill yr amser.
“Diddordeb oedd o yn y man cyntaf, gwario lot fawr o bres ar farnish ewinedd a mynd i siopa i lefydd fel Lerpwl a dod yn ôl efo llwyth o stwff a gwneud [ewinedd] teulu a ffrindiau,” esbonia Ffion.
“Fe wnes i benderfynu mynd i hyfforddi’n ôl yn 2015 er mwyn i fi gael gwybod sut i wneud ewinedd go-iawn, ond eto er mwyn gwneud teulu a ffrindiau. Doeddwn i erioed wedi meddwl gwneud busnes allan ohono fo o gwbl.”
Cafodd Ffion a’i gŵr Dewi eu mab cyntaf yn 2016, a phan oedd Gruff tua phedwar mis oed fe ailgydiodd Ffion yn y gwinedd, yn bennaf fel ffordd o adael y tŷ a chael ychydig o amser iddi hi’i hun.
“Aeth pethau o un i llall. Roedd gen i fusnes symudol am ychydig er mwyn gweld os oedd o’n rhywbeth oeddwn i eisiau ei wneud…
“Cefais i’r ail fab, Caio, yn 2021 ac es i’n ôl i weithio i wneud yr ewinedd pan oedd o’n ddeg wythnos oed. Erbyn hynny, roeddwn i wedi cael fy nghleientiaid, ac roeddwn i eisiau cadw pawb…
“Dw i’n brysur, dw i dal i gael bobol newydd, a dw i’n dysgu [yn yr ysgol] un diwrnod yr wythnos. Mae o wedi galluogi fi i gymryd cam yn ôl o fod yn athrawes ar gontract a bod yn gwneud mwy o oriau fel fy mod i’n gallu gweithio i fi’n hun, gallu gweithio oriau rownd y plant, a dw i’n gallu gwneud lot o bethau yn ôl fy newis fy hun.”
Mae nifer o gleientiaid yn gofyn am ddyluniadau manwl ar eu hewinedd, o luniau bychan o blu eira dros y Dolig i flodau lliwgar yn y gwanwyn, ac mae gofyn am dipyn o amynedd.
“Dw i wrth fy modd,” pwysleisia Ffion, gan egluro bod rhai cleientiaid yn dod mewn efo syniadau penodol ac eraill heb syniad o gwbl.
“Dw i’n gweld o reit therapiwtig, mae o’n rhoi chdi mewn ryw le… dw i’n gallu colli fy hun yn gwneud lluniau bach ar y gwinedd. Dw i bob amser yn dweud fy mod i’n caru gwneud gwinedd gymaint y byswn i’n gwneud o am ddim, ond yn amlwg dw i ddim! Fysa fo ddim yn ffordd dda o fyw os fyswn i, ond dydw i ddim yn teimlo fel fy mod i’n gweithio.
“Pan oeddwn i yn yr ysgol roeddwn i’n hoffi pethau fel celf, technoleg, ac yn hoffi gwneud pethau ymarferol. Er, mae gen i radd yn y Gymraeg ac es i ymlaen wedyn i wneud [cwrs] ymarfer dysgu, a dyna fues i’n ei wneud am dros ddeng mlynedd.”
Cwsmeriaid yn troi’n gyfeillion
Mae Ffion wrthi’n cwblhau cymhwyster fel ei bod hi’n gallu dysgu eraill sut i drin gwinedd ar y funud hefyd, ac yn pwysleisio mai’r peth brafiaf am ei gwaith ydy cael dod i adnabod ei chwsmeriaid.
“Ti’n dod yn ffrindiau efo nhw, ti’n dod i nabod eu cefndiroedd a’u bywydau nhw. Dw i’n teimlo’n ffodus iawn achos dw i’n cael chwarae rôl yn eu bywydau nhw, ac rydych chi’n cael gweld y da a’r drwg o fywyd rywun. O fis i fis, mae yna lot yn digwydd a dw i’n cael gweld pigion o’u bywydau nhw. Dw i’n teimlo yn reit ffodus, achos maen nhw’n ymddiried ynoch chi, a dw i’n gallu ymddiried ynddyn nhw pan fo angen hefyd.
“Y peth pwysicaf i fi ydy fy mod i’n gallu gwneud i rywun deimlo’n dda. Mae rhywun yn gallu dod mewn i’r salon ac ella’u bod nhw wedi cael andros o ddiwrnod caled, ac mai hwnna ydy eu hawran nhw lle maen nhw’n cael awr iddyn nhw’i hunan, anghofio be sy’n digwydd tu allan.
“Dw i’n ofnadwy o grediniol bod cymryd amser i chi’ch hun yn bwysig, yn enwedig fel mae bywyd wedi bod ar ôl y pandemig a sut ydyn ni wedi bod ers hynny, mae arafu lawr a chael stop bob hyn a hyn yn bwysig. Mae lot o’n nghleientiaid i’n defnyddio’u hapwyntiad nhw fel trît y mis, ac eto’n ei ddefnyddio fo fel mai hwnna ydy eu hamser nhw, ddim yn gorfod meddwl am blant, gwaith. Mae hi’n bwysig eu bod nhw’n cael boddhad, ac yn mynd oddi yna’n teimlo’n well.”
O bryd i’w gilydd, mae Ffion yn delio efo gwinedd sydd wedi cael eu brathu i’r byw bron â bod, ar ôl blynyddoedd o gnoi a phigo.
“Be dw i’n gynnig ydy eu bod nhw’n gallu mynd ar ryw fath o siwrne – dim jyst eich bod chi’n peintio’u gwinedd nhw a dyna ni. Eich bod chi’n cymryd amser, ac yn dod i’w hadnabod.
“Un enghraifft, doedd yr unigolyn erioed wedi cael gwinedd hir, wedi brathu’i hewinedd ar hyd ei hoes hyd yn hyn. Fe wnaeth hi ddod i fy ngweld i efo prin dim ewinedd, a doeddwn i methu gwneud dim byd efo hi mewn ffordd – fyswn i ddim yn licio gwneud dim byd na chymryd ei harian hi ar y pryd. Os dw i’n rhoi cynnyrch ar ewinedd rhywun, mae o’n gorfod bod yn saff ac ar y pryd fyswn i ddim wedi gallu rhoi dim byd ar gwinedd hi heb iddo fo gyffwrdd ei chroen hi ac agor hi fyny i gymaint o bosibiliadau o ran alergeddau. Pan rydych chi’n meddwl am yr ochr feddygol ohono fo, fysa yna lot o bethau’n gallu codi o hynny.”
Bu’r ferch dan sylw yn defnyddio olew ar ei hewinedd yn ddeddfol am tua chwe wythnos, a dyma nhw yn gwella digon i Ffion allu eu trin.
“Erbyn hyn, mae ei hewinedd hi fel rhai sydd erioed wedi cael eu brathu.
“Mae bod yn rhan o’r broses yna efo rywun, a dod i nabod nhw fel person a’u cefndiroedd… dw i’n gweld o reit humbling achos maen nhw’n dy ddewis di. Dw i wrth fy modd pan mae rhywun yn dewis fi achos dw i yn rhoi lot o falchder yn be dw i’n wneud.”
Bod yn fam ym myd busnes
Ennill y wobr yng nghategori Gwallt a Harddwch Llais Cymru oedd un o uchafbwyntiau’r flwyddyn ddiwethaf i Ffion, gan ychwanegu ei bod hi’n ddiolchgar am y gydnabyddiaeth a’r sylw ddaeth yn ei sgil.
“Doeddwn i ddim yn coelio’r peth, wnes i erioed feddwl y byswn i’n ennill. Roedd hwnnw yn anrhydedd ynddo’i hun, achos, yn un peth, mae o’n rhoi cydnabyddiaeth i chi am be rydych chi’n ei wneud o ddydd i ddydd. Ac yn ail, mae o’n cael eich enw chi allan yna mewn ffordd. Roedd o’n deimlad lyfli, fel bod pobol yn cael gwybod am fy musnes i hefyd.
“Mae o’n rhoi ryw sbin arall ar fyd rhedeg busnes, a’ch bod chi’n gallu rhwydweithio efo pobol eraill sy’n rhedeg busnesau. Rydych chi’n gallu bod reit unig ar adegau. Gan fy mod i’n gweithio fy hun, dw i’n nabod lot o bobol sy’n gweithio yn y diwydiant ond dydw i ddim yn eu gweld nhw o ddydd i ddydd.”
Ffarmio ar fferm ei rieni gerllaw yn Nhregarth mae Dewi, gŵr Ffion, ac mae’r hogiau wrth eu boddau’n helpu. Ond, fel mam ym myd busnes, mae rhai heriau’n codi.
“Rydyn ni’n cael bywyd bach lyfli, rydyn ni yng nghanol amser wyna rŵan. Mae’r hogiau wrth eu boddau. Dw i’n teimlo fel fy mod i’n ychydig bach o jack of all trades achos dw i’n mynd o un peth i llall.
“Ond mae o’n heriol, heb os. Dw i’n gweithio gyda’r nosau, ac yn y dydd yn amlwg, ond be sy’n neis ydy fy mod i’n gallu gweithio rownd yr hogiau. Dw i’n gallu gwneud yn siŵr fy mod i’n gallu mynd â’r hynaf i’r ysgol a’i bigo fo fyny, wedyn mae o’n gallu mynd at ei dad i ffarmio. Mae o yn yr oed rŵan lle mae o’n gallu helpu ar y ffarm, sy’n grêt, ac mae ganddo fo ddiddordeb mewn hynny.”