Roedd dau aelod Datblygu, Pat Morgan a David R Edwards, wedi bwriadu rhyddhau casgliad arbennig o’u caneuon y llynedd i nodi’r ffaith fod y band seminal yn 40 oed.

Ond bu farw’r canwr David R Edwards ym Mehefin 2021 a dim ond yn ddiweddar mae’r casgliad Terfysgiaith 1982-2022 wedi gweld golau dydd.