Ar ôl sawl llyfr am enwau lleoedd, mae Glenda Carr wedi mentro i fyd cwbl wahanol – y nofel ffantasi…
Beth sy’n peri i hanesydd llên benderfynu troi ei llaw at sgrifennu nofel ffantasi yn ei 70au hwyr? Yr ateb yn achos Glenda Carr yw mochyn bach pinc a brynodd ei merch Gwenllian iddi’n anrheg o un o siopau Marks & Spencer Caerdydd.
“Gweld rhyw olwg hengall ar hwn wnes i,” meddai’r awdur am y tegan, sydd wedi hawlio’i le ar gefn cadair eistedd yn lolfa ei chartref ym Mryn Eithinog, Bangor, lle mae hi’n sgwrsio gyda Golwg. “Dyma’r mab yn ei alw yn ‘Porchellan’, a dyma fi yn meddwl am Borchellan yn y Llyfr Du, yng Nghoed Celyddon efo Myrddin.”
Nofel ffantasi wedi’i seilio ar yr hen chwedlau Cymraeg yw Mochyn Tynged, sy’n cael ei chyhoeddi gan Wasg y Bwthyn, a dyma nofel gyntaf Glenda Carr.
Yn y farddoniaeth sy’n gysylltiedig â ‘Myrddin Wyllt’ yn Llyfr Du Caerfyrddin – un o’r llawysgrifau Cymraeg hynaf – roedd Myrddin wedi mynd yn wallgo’ a mynd i fyw i Goed Celyddon yn dilyn Brwydr Arfderwydd.
Yn y nofel, mae’r awdur yn mynd â ni ar siwrne gyda Myrddin a’r mochyn bach i mewn i fydoedd rhai o’n chwedlau enwocaf – megis Ceridwen a Gwion Bach, Blodeuwedd, a Culhwch ac Olwen.
Dechreuodd Glenda Carr gyhoeddi llyfrau yn olrhain hanes hen enwau ar ôl ymddeol, wedi gyrfa academaidd ddisglair. Cyhoeddodd dri llyfr poblogaidd, Hen Enwau o Arfon Llŷn ac Eifionydd, Hen Enwau o Ynys Môn a Hen Enwau o Feirionnydd. Enillodd Ddoethuriaeth pan oedd hi’n 70 oed ar sail yr ymchwil.
Doedd hi erioed wedi bwriadu sgrifennu nofel. “Ei wneud o am laff wnes i, a dweud y gwir,” meddai. “Ro’n i’n cael hwyl. Roedd fy ngŵr yn fyw’r amser hynny.”
Mi roddodd y nofel i’r neilltu ar ôl marwolaeth ei gŵr, yr hanesydd a’r Athro A D Carr, yn 2019, ac ailgydiodd ynddi ar anogaeth ei mab Richard, a gyrru’r nofel orffenedig at Wasg y Bwthyn. “Mi oeddan nhw’n licio fo, a dyna sut ddoth o, mewn gwirionedd,” meddai.
“Ro’n i jest wedi sgrifennu hwn fel rhyw fath o ddifyrrwch. Doedd o ddim yn waith caled o gwbl. Roedd yn hynod o hawdd a dweud y gwir. Ro’n i bob amser yn licio sgrifennu. Mae’r llyfrau enwau lleoedd yn reit agos atoch chi.
“Athrawes ydw i yn y bôn… Dim ond rhyw reddf i gyflwyno fy syniadau mewn ffordd hawdd i’w ddeall, hygyrch felly [yw sgrifennu llyfrau].”
Mabinogi yn y coleg
Astudiodd Glenda Carr wrth draed ysgolheigion o bwys yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, yn niwedd y 1950au, fel yr Athro J E Caerwyn Williams ac R Geraint Gruffydd. “Roedd y ddau yn ddylanwadau mawr arna i,” meddai.
Roedd Caerwyn Williams yn un o arbenigwyr ar lenyddiaeth yr ieithoedd Celtaidd, gyda diddordeb mawr yn y Gymraeg.
“Mi fyddai o’n gallu treulio hanner awr yn trafod un gair,” meddai Glenda Carr. “Ond roedd o’n ysgolhaig, ac roedd yna rywbeth addfwyn iawn amdano fo. Ro’n i’n licio fo. Fo oedd fy nghyfarwyddwr i pan oeddwn i’n gwneud fy MA, wedyn mi ddois i’n reit agos ato fo. Roedden ni’n sgrifennu at ein gilydd drwy’r blynyddoedd wedyn.
“Ac roedd Geraint Gruffydd yn fywiog iawn ac yn annwyl ofnadwy.”
Pwnc ei gradd MA oedd bywyd a gwaith William Owen Pughe, geiriadurwr a oedd wedi ceisio cyfieithu’r Mabinogi. “Felly roeddwn i wedi astudio’r Mabinogi a’r chwedlau dipyn go-lew,” meddai.
Pan oedd hi wedyn yn bennaeth yr Uned Gyfieithu yn y brifysgol, cafodd gyfle i ddarlithio rhywfaint yn yr Adran Gymraeg, yn bennaf ar y modiwl Ysgrifennu Creadigol, ond hefyd rhywfaint ar Gymraeg Canol, ac ar Ddrama.
Er yr holl gefndir ysgolheigaidd, nid yw Mochyn Tynged yn nofel drom o gwbl. “Mae hi’n reit llafar,” meddai. “Sgyrsiau ydi rhan fawr ohoni.”
Ond fel cyn-ddarlithydd, a oedd addysgu ei darllenwyr am y chwedlau yn fwriad ganddi wrth ei sgrifennu? “Nac oedd. Dim ond eu bod nhw’n straeon da ynddyn nhw’u hunain.”
I fyd ffantasi
Ar ddechrau’r nofel, mae Myrddin yn mynd â Porchellan y mochyn i gegin Ceridwen, ac maen nhw’n gweld Gwion Bach yn profi’r ddiod hud, ac yn dianc rhag llid y wrach drwy weddnewid yn sgwarnog. Nôl yng Nghoed Celyddon wedyn, mae’r mochyn yn dysgu sut i ‘drawsymud’ a gweddnewid ei hun, gan droi’n ddyn ifanc talog.
Mae’n cael mynd i astudio yn y prifysgolion mawr canoloesol ‘ym Mologna, Salamanca, Padua, Valladolid a Phrag’ cyn cyrraedd Paris: ‘Llowciodd ramadeg, rhethreg, rhesymeg, seryddiaeth a sawl disgyblaeth arall yn frwdfrydig. Cynyddodd ei wybodaeth o lam i lam. ‘Braidd fel ei ego,’ oedd sylw un o’i diwtoriaid.’
Ar ôl dychwelyd i Gymru, mae Porchellan a Myrddin yn mynd i Lys Arthur yn Nantlle, cyn mentro gyda marchogion Arthur i helpu Culhwch ennill llaw Olwen drwy wneud cyfres o dasgau amhosib, yr ‘anoethau’. Yn eu plith, hela’r Twrch Trwyth – un o rannau enwocaf y chwedl yma.
“Culhwch ac Olwen ydi’r prif linyn sy’n mynd drwyddo fo,” meddai Glenda Carr. “Dw i’n licio’r chwedl. Mae hwyl i gael efo nhw – ‘yr Anifeiliaid Hynaf’ a phethau felly.”
Mae hi’n amlwg wedi cael hwyl arni, gan ei bod wedi rhoi nodweddion arbennig i’r Anifeiliaid Hynaf. Mae Mwyalch Cilgwri, er enghraifft, yn siarad ag acen ‘Bangor aye’ gref, a Chymraeg bratiog: ‘‘I Nain fi mae diolch bod fi’n siarad yr iaith, aye? Ddath hi i fyw efo ni ar ôl i’r hen foi – Taid fi, ia – gicio’r bwcad.’
“Eitha nerfus”
Sut mae’r awdur yn teimlo am gyhoeddi nofel ffantasi wedi gyrfa academaidd faith?
“Rhaid dweud fy mod i’n eitha’ nerfus sut fath o dderbyniad mae o’n mynd i’w gael,” meddai Glenda Carr. “Achos dydi o ddim yn apelio at bawb, y math yna o ffantasi.”
Mae hi wedi cwblhau’r gwaith sgrifennu ers tua dwy flynedd. A oes nofel arall ar y gweill? “’R’argian, nac oes. One-off!”
Roedd ei diweddar ŵr, Antony Carr, yn arbenigwr ar Gymru’r Oesoedd Canol. Faint o ddylanwad a gafodd e ar ei nofel, os o gwbl?
“Does yna neb arall wedi dylanwadu ar y nofel. Dim ond fy mod i’n cael hwyl yn ei thrafod hi, yn darllen darnau bach iddo fo, fel roeddwn i’n ei sgrifennu hi… Roedd y ddau ohonon ni’n sgrifennu wrth gwrs. Roedd o’n reit gyfleus… Roedden ni’n helpu’n gilydd. Roeddwn i’n ei helpu fo efo ambell i gyfieithiad o farddoniaeth gynnar neu rywbeth felly, ac roedd o’n fy helpu i efo ffeithiau hanesyddol os oeddwn i’n gwneud y llyfrau enwau lleoedd.”
Er na fydd hi’n sgrifennu nofel arall, mae ganddi lyfr am enwau lleoedd ar y gweill, “un mwy cyffredinol am y caeau”. Nid yw, fodd bynnag, wedi gallu gweithio arno’n ddiweddar oherwydd triniaeth gataract ar ei llygaid. Mae’r llyfr yn seiliedig ar dystiolaeth sydd ganddi ers rhai blynyddoedd.
“Dw i wedi bod yn hel,” meddai. “Dw i ddim yn gwybod os gwnaiff o weld gola’ dydd. Dw i ddim yn mynd dim ieuengach.”
Mae hi’n falch bod y llyfrau enwau lleoedd eraill wedi plesio darllenwyr, ac yn cael eu trin a’u trafod. “Mae yna lot o bobol wedi dweud bod nhw’n defnyddio’r llyfrau. Maen nhw’n fath o lyfrau rydach chi’n pori ynddyn nhw, yn hytrach na’u darllen o glawr i glawr.”
Fel addysgwr, a yw hi’n mynd yn rhwystredig pan fydd yn gweld hen enwau Cymraeg yn cael eu colli, a’u Seisnigo? “Mae rhywun yn mynd yn rhwystredig… am yr iaith yn gyffredinol… yr idiomau wedi’u colli.
“Roedd fy mam yn defnyddio llawer iawn mwy o idiomau o bosib nag ydw i, a dw i’n defnyddio mwy nag fy mhlant efallai. Roedd iaith fy nain yn gyfoethog iawn.”
Un o Lanwnda oedd ei mam, a’i thad o Gaernarfon, yn was sifil yn y Cyngor Sir. “Roedd fy nhad yn ddarllenwr mawr,” meddai.
Pa ru’n felly sy’ wedi dod â’r boddhad mwya’ iddi, y llyfrau enwau lleoedd, neu’r nofel am y mochyn bach eofn?
“Mae o’n hollol wahanol, a’r boddhad yn wahanol. Alla i ddim dweud fy mod i wedi cael boddhad o’r mochyn eto, achos dw i ddim yn gwybod beth fydd yr adwaith. Dw i wedi cael adwaith ffafriol iawn i’r llyfrau enwau lleol ac mae hynny yn rhoi hwb i rywun.
“Dydi o ddim ots os dw i’n cael hwb neu beidio efo hwn, achos fel ‘ro’n i’n dweud, one-off ydi o ynte.”
- Bydd Mochyn Tynged yn cael ei gyhoeddi gan Wasg y Bwthyn cyn bo hir, a’r pris yw £9