Fe gafodd ysgol ger Harlech andros o fraint yn ddiweddar – cael croesawu un o ddarluniau enwocaf y genedl i’r stafell ddosbarth…

Yn rhan o ddigwyddiad Campweithiau Mewn Ysgolion, un o brojectau ‘estyn allan’ y Llyfrgell Genedlaethol, daeth darlun dyfrlliw enwog Sydney Curnow Vosper, ‘Salem’, adre i’w gynefin yn ddiweddar.