Pan nad yw’n tynnu lluniau o dirweddau trawiadol Eryri, mae ffotograffydd o’r gogledd wrthi’n ddiwyd yn ymgyrchu dros annibyniaeth.

Yn berchen ar oriel Panorama yng Nghaernarfon ers deunaw mlynedd, mae Geraint Thomas bellach yn un o gyfarwyddwyr YesCymru ac yn rhoi ei amser o’i wirfodd i’r frwydr.

Fe gafodd ei fagu ym mhentref bach Nantlle yn Nyffryn Nantlle yng Ngwynedd, a bellach mae’n byw yn Llidiardau ger y Bala gyda’i wraig a’u plant.