Daeth Côr Dre i’r brig mewn tair cystadleuaeth yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon dros y penwythnos a chafodd y côr ei goroni’n Gôr yr Ŵyl.

Bu’r côr o Gaernarfon yn llwyddiannus yn y gystadleuaeth gorawl ddigyfeiliant, cân harmoni traddodiadol unsain ddigyfeiliant, a’r gystadleuaeth gorawl agored.

Roedd hi’n “wych” derbyn clod gan y beirniaid ar ôl gwaith caled yn paratoi meddai trysorydd y côr, Jamie Dawes-Hughes.