Gwyn eu byd y cynghorau sir sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg, canys y maent hwy yn helpu’r iaith i oroesi.

Hwynt sydd yn cynnal eu holl fusnes yn Gymraeg ac yn anelu at gael bob swyddog yn rhugl yn yr iaith.

Yn syml, mae’r cynghorau sir hyn yn cynnig swyddi da gyda phensiynau hael i’r rhai hynny sydd yn medru siarad Cymraeg, neu yn fodlon ei dysgu.

Dyma ffordd ymarferol o gynnig cyflogaeth i’r Cymry yn eu cadarnleoedd.