Mae’n debyg yn ogystal â bod yn greulon, yn dwp ac yn ddidalent, mae’r Gweinidog Cartref bellach wedi ychwanegu ‘bod yn hiliol’ at y rhestr. Roedd sylwadau Suella Braverman yr wythnos diwethaf am gangiau grŵmio Pacistanaidd yn rhai rhyfeddol, yn sgiwio gwybodaeth yn llwyr er mwyn targedu cymuned leiafrifol. Fe gafodd ei herio ar y mater yn bennaf gan y Farwnes Warsi – ei hun o dras Pacistanaidd ac yn un o’r ychydig Geidwadwyr sydd y dyddiau hyn yn haeddu parch ac sydd wastad yn cyfrannu at ddadl