Wyddwn i ddim fy mod i’n meddwl amdani fel yna nes iddi ddechrau gwaelu. Yr afon hon – benywaidd wrth gwrs, yn llinellau crom a chyfrinachau i gyd, yn siffrwd weithiau ac yn canu weithiau ac yn bloeddio ambell dro hefyd. Yn fenywaidd, fel fi. Yn llifo o hyd, yn newid o hyd. Does yna ddim byd o’r llyn ynof fi na’r afon, dim llonyddwch gosgeiddig, yn llawn dirgelwch. Rydym ni’n crwydro ac yn siarad yn ddi-baid.